Llifogydd: Canslo gwyl rasus

Mae’r gwaith clirio wedi dechrau ar ôl llifogydd sydyn ddydd Mercher.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a’r Gorllewin eu galw i helpu pobl mewn sawl rhan o Geredigion ar ôl i law trwm achosi llifogydd mewn cyfnod byr.

Bu’n rhaid cau rhai ffyrdd am gyfnod ac mae gwyl rasus wedi cael ei chanslo am y tro cynta yn ei hanes.

Penderfynodd Clwb Trotian Tregaron ganslo Gwyl Rasus Tregaron oedd i fod i ddechrau ddydd Iau.

Roedd archwiliad o gyflwr y trac fore Iau ar ôl y glaw trwm a phenderfynodd y trefnwyr na fyddai’n bosib cynnal y digwyddiad.

B.

Brwydr gyfreithiol am dystlythyr

Roedd Christine Laird yn arfer gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf

Mae’n bosib y gallai un o gynghorau Cymru wynebu talu cannoedd o filoedd o bunnoedd mewn costau oherwydd anghydfod ynglÅ·n â thystlythyr a roddwyd i gyn-weithiwr.

Mae rhaglen Dragon’s Eye y BBC wedi cael gwybod bod Cyngor Bwrdeistref Cheltenham yn dwyn achos yn erbyn Cyngor Rhondda Cynon Taf ynglÅ·n â geirda a roddwyd i Christine Laird.

Cafodd Miss Laird ei phenodi yn rheolwr gyfarwyddwr y cyngor yn Cheltenham yn 2002 ond fe adawodd yn 2005 ar ôl anghydfod.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi dweud y bydden nhw amddiffyn eu hunain.

B.

Topically speaking…

as it’s Dewi Sant (Saint David’s Day to those poor unfortunates who don’t speak God’s Own Tongue) here are a bunch of interesting sheep-related facts

1. The furthest distance a sheep has flown unaided is 639 miles.

2. Elviz Presley was from Pontypridd (pron: Pont-ee-preeeth).

3. The fibrous exterior of a sheep is called bearding.

4. Sheep are called ruminants because they take a long time to think things over.

5. Sheep sleep in nests they make in trees.

6. When faced with a ‘water emergency’ a sheep will inflate its swim bladder and float to safety.

7. Sheep poo is the raw ingredient of a type of paper.

All of these facts and more(*) are available at this worthy Welsh website.

(*) Well… when I say more we need to add a note of slight caution here – especially as six out of seven of these facts are actually… not facts at all. Fabricated. Completely made up. Oh yes. Except for number 4.

Happy St David’s Day!

🙂

B.

Ha!

Mewn pleidlais hanesyddol ym Mhontrhydfendigaid ddydd Sadwrn, mae Plaid Cymru wedi penderfynu rhannu grym â Llafur ym Mae Caerdydd.

Penderfynodd cyngor cenedlaethol Plaid Cymru gefnogi’r ddogfen “Cymru’n Un,” y cytundeb rhwng arweinwyr y ddwy blaid, gyda 225 o blaid ac 18 yn erbyn.

Bydd aelodau Plaid Cymru yn cael lle yn y cabinet am y tro cyntaf erioed, a bydd Rhodri Morgan yn parhau’n Brif Weinidog.

O?!

Rhodri Morgan?

Brennig.

Dim Cymraeg ‘yn warthus’

There’s an English bit below for those of hard of hearing…

🙂

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dweud bod penderfyniad cwmni teithio i ofyn i’w staff beidio â thrafod eu gwaith yn Gymraeg yn “gwbl annerbyniol”.

Dywedodd y Gweinidog dros Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg: “Mae’n hollol annerbyniol fod Thomas Cook wedi gwahardd staff rhag siarad Cymraeg yn y gwaith.”

Mae Carwyn Jones wedi gofyn i’r cwmni gyfarfod ag e i drafod eu polisi at yr iaith Gymraeg,

“Ein amcan ni yn y tymor hir yw creu Cymru ddwyieithog, fel bod pobl yn cael y cyfle i siarad y Gymraeg neu’r Saesneg”.

Roedd y cwmni wedi dweud y dylai sgyrsiau am waith fod yn Saesneg am mai hon oedd “yr iaith oedd yn cael ei defnyddio fwya ym Mhrydain”.

‘Gwarthus’

Roedd ymddygiad y cwmni’n “warthus,” meddai Cymdeithas yr Iaith ac yn tanlinellu’r angen am Ddeddf Iaith newydd.

Mae’r mudiad am brotestio y tu allan i gangen y cwmni ym Mangor ddydd Sadwrn os nad yw’r cwmni yn newid eu hagwedd.

Mae Bwrdd yr Iaith wedi dweud fod penderfyniad Thomas Cook wedi eu siomi.

Ac mae penaethiaid Thomas Cook wedi dweud nad yw rheol iaith y cwmni yn y swyddfa ym Mangor yn wahanol i unrhyw un o’u siopau eraill.

“Er tegwch i bob aelod o staff, lle bynnag mae’r swyddfa, mae disgwyl i’r staff drafod busnes yn Saesneg,” meddai llefarydd.

Ond dywedodd y cwmni eu bod yn caniatáu sgyrsiau personol yn y Gymraeg neu unrhyw iaith arall.

‘Siomedig’

Mae Comisiynydd Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, Aled Edwards, wedi rhybuddio y gallai’r polisi busnes dorri’r ddeddf cydraddoldeb hiliol.

Os oes prawf, fe allai’r comisiwn gynnal ymchwiliad ffurfiol, meddai.

“Dwi’n credu bod diogelu hawliau pobl i siarad eu hiaith eu hunain o fewn eu gwlad eu hunain ac yn y man gwaith yn rhywbeth priodol i’w ystyried,” meddai.

“Mae gen i’r pŵer i fedru cefnogi person cyflogedig os ydyn nhw’n teimlo eu bod nhw wedi cael cam.

“Os ydw i’n teimlo bod anghyfiawnder fan hyn, dwi’n medru cysylltu â’n pwyllgor cyfreithiol”.

Dywedodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg eu bod yn falch bod y comisiwn yn dangos diddordeb.

“Dwi’n siomedig iawn bod cwmni fel hyn, cwmni mawr rhyngwladol, wedi gwneud penderfyniad o’r fath, sy’n ymddangos i mi ddim yn un call iawn,” meddai Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

‘Sarhaus’

Dywedodd Dafydd Iwan, Llywydd Plaid Cymru: “Mae hyn yn dangos yn eglur fod rhagfarn afiach yn erbyn y Gymraeg yn bodoli o fewn rhai o’r cwmnïau mawr hyn, ac mi fyddwn yn annog pobl sy’n byw yn ardal Bangor i ddefnyddio’r cwmnïau teithio lleol sy’n parchu’r Gymraeg, ac yn barod i drafod eu busnes yn yr iaith.

“Mae agwedd sarhaus Thomas Cook yn brawf arall o’r angen am Ddeddf Iaith newydd a fydd yn rhoi statws gyflawn i’r Gymraeg, ac yn rhoi hawliau mewn deddf i siaradwyr Cymraeg.”

Dywedodd Hywel Griffiths, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae gwaharddiad Thomas Cook yn amhosib i’w gynnal.

“Disgwyliwn y bydd pwysau wrth eu cwsmeriaid a chyrff cyhoeddus, yn ogystal â thwpdra eu sefyllfa eu hunain, yn eu gorfodi i dynnu nôl o fewn dyddiau, efallai yn ystod y dydd heddiw.”

Ychwanegodd Carwyn Jones, y Gweinidog dros Addysg, Diwylliant ac y Gymraeg: “Fe ofynwyd i Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn eu llythyr gorchwyl wrth Lywodraeth y Cynulliad yn 2007-8, i ddatgbygu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithlu, gan gynnwys hybu ymwybyddiaeth a sensitifrwydd ieithyddol.

“Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi cynnal cynlluniau peilot gyda Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Ceredigion er mwyn datblygu’r defnydd mewnol o’r iaith yn y sefydliadau yma. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi datblygu ei defnydd mewnol o’r iaith Gymraeg er mwyn gwireddu ein ymrwymiadau yn ein Cynllun Iaith Gymraeg yn fwy effeithiol”.

Newyddion…Â

So what Thomas Cook are actually saying here is that:

  • it’s OK for the staff to have private and personal conversations amongst themselves in Welsh
  • it’s OK for the staff to have professional conversations with members of the public in Welsh
  • it’s not OK for the staff to discuss things like ‘training and team performance’ amongst themselves in Welsh.

I’m beginning to think that Thomas Cook managers might need to be replaced.

Brennig.